Bwyta yn yr Harbwrfeistr

Mae’r bwyty a’r warws yn edrych dros yr harbwr a’n cynnig y gorau o fwyd môr a physgod Bae Ceredigion, Cig Eidion Cymreig a Chig Oen Cymreig, cawsiau Ceredigion a llysiau organig lleol. Gwyliwch y machlud haul a’r cychod ar y dŵr o’ch bwrdd. Ar agor bob dydd (oni bai am ddydd Nadolig).

Gweinir yn ddyddiol:

Brecwast (rhaid bwcio) 8 – 10.30yb
Coffi a chacen 8yb – 5.30yp
Cinio  12 – 2:15yp
Charcuterie HM 2:30 – 5yp
Te Prynhawn HM. Ar gael ar ddydd Mercher a dydd Sadwrn am 3yp. (Mae’n rhaid bwcio pob opsiwn Te Prynhawn HM o leiaf 48 awr o flaen llaw.)
Swper 5.30 – 9yh

Croeso ichi gymeryd diod cyn neu ar ôl eich pryd, wrth y bar zinc yn y warws.

Dim cwn tu fewn. (Croeso i gwn tywys.)

Prif Gogydd: Shane James

Yfed yn yr Harbwrfeistr

Rydym yn cynnig cwrw go iawn a chwrw crefft o rai o fragdai gorau Cymru.

Dewis o 18 o winoedd wrth y gwydr oddi ar ein rhestr win sy’n newid, dtholiad da o Gin Cymreig ar gyfer eich tonic, coctêls arbennig a chalon ein bar yw ein peiriant coffi La Marzocco gyda choffi eiconic Coaltown Rhydaman.