Harbourmaster
Pen Cei
Aberaeron
SA46 0BT
01545 570755
www.harbour-master.com
Telerau bwcio
Wrth archebu ystafell fe holwn am gerdyn credyd er mwyn sicrhau’r ystafell.
O Orffennaf 2020 ni fyddwn yn derbyn talidadau arian parod.
Byddwn ond yn derbyn taliadau cerdyn credyd ar gyfer ystafelloedd, diodydd a bwyd. Derbyniwn American Express.
Wrth adael y gwesty gall gwesteion wneud taliad diogel o’u hystafell ar fodiwl ar eich ffon neud dabled.
Canslo neud newid archeb ystafell
Gall archebion ystafell gael eu gohirio neu eu trosglwyddo i fyny at 3 diwrnod (72awr) cyn cyrraedd heb ddirwy. Gall pris yr ystafell newid os yw’ch arhosiad yn cael ei drosglwyddo i ddyddiad arall.
Covid-19
Petai rhaid i chi ganslo neu newid eich archeb oherwydd Covid-19, bydd modd canslo eich archeb ystafell neu ei drosglwyddo i ddyddiad arall sy’n gyfleus.
Bydd pris y noson gyntaf yn daladwy o’r cerdyn credyd a roddwyd wrth fwcio, am unrhyw archebion a ganslir neu a newidir o fewn 72 i’r amser cyrraedd, sydd ddim yn uniongyrchol o ganlyniad i Covid-19.
Petai rhaid i ni gau oherwydd Covid-19, caiff archebion eu canslo neu eu trosglwyddo heb ddirwy.
Ernes
Rydym angen taliad fel ernes ar gyfer archebion o 3 ystafell+ neu ar gyfer digwyddiadau arbennig. Rhoddir manylion penodol i chi pan yn bwcio.