Aros y Nos

Saif llety’r Harbourmaster ar draws tri adeilad hanesyddol ar lan yr harbwr.
Mae 11 ystafell en-suite wedi’u lleoli yn yr adeilad glas eiconig. Ceir llety hunanarlwyo ychwanegol yn ein bwthyn pinc, sydd ond ychydig fetrau o’r prif adeilad.
Yn ogystal, mae ein fflat ar lawr cyntaf y Tŷ Lilac, ar brif stryd Aberaeron, yn cynnig golygfeydd hyfryd dros yr harbwr.

Mae gennym 2 bwynt gwefru ceir trydan yn ein maes parcio.

Sylwch nad yw cŵn yn cael eu caniatáu dan do (ac eithrio cŵn gwasanaeth).

Mae mwy o wybodaeth a lluniau o’r ystafelloedd ar gael drwy’r dolenni clicadwy isod.

Cliciwch ar ‘Book’ i weld prisiau ac argaeledd.

Cliciwch ar ‘Book’ i edrych ar argaeledd a prisiau ystafelloedd. Mae lluniau ein hystafelloedd ar y lincs isod.

 

Ystafelloedd Gwreiddiol

Ystafelloedd y Warws

Ein Bwthyn

Ein Fflat