Mae’r Harbwrfeistr yn westy, bar a bwyty annibynnol a sefydlwyd yn ei wedd bresennol yn Mai 2002.
Mae wedi ennill gwobrau lu am y bwyd, y croeso a’r lletygarwch ac wedi ennill ei blwy ymysg y gymuned leol a’r ymwelwyr am ei naws am le arbennig.
Mae nawr wedi ehangu i dri adeilad hanesyddol ac mae’r adeilad gwreiddiol glas bellach yn eicon pwysig i’r harbwr ac i’r dref.
Ar hyd y daith, ac yn hanfodol i’r llwyddiant, yw’r don o staff talentog ifanc, nifer ohonynt o’r ardal. Rydym yn falch o’u llwyddiannau a’u cyfraniad i wneud y gwesty ac Aberaeron yn enwog fel cyrchfan deniadol sy’n enwog drwy Gymru ac ymhellach.
Rheolwr Cyffredinol: Dai Morgan
Is-Reolwr Cyffredinol: Dwynwen Morgans
Prif Gogydd: Shane James