Byddwch y cyntaf i glywed am ein cynigion arbennig. Boed yn ddigwyddiad arbennig fel Dydd San Ffolant neu Sul y Mamau, pecyn ciniawa, gwin neu ostyngiad amser cyfyngedig, mae digonedd o gyfleoedd cyffrous yn eich croesawu yn yr Harbwrfeistr. Os nad ydych am golli ein cynigion arbennig a fydd yn sicr o wneud eich arhosiad yn yr Harbwrfeistr yn un bythgofiadwy, ymunwch â’n rhestr bostio, dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol, neu gwiriwch ein gwefan yn aml.
Gorffennwch eich wythnos y ffordd iawn – gydag ymweliad â’r arfordir sydd wedi’i gynllunio i’ch gadael yn ffres ac yn barod ar gyfer yr wythnos i ddod.
Mwynhewch gostyngiad o 15% ar gyfraddau Gwely a Brecwast ar ddyddiau Sul dethol rhwng 1af o Dachwedd i’r 21ain o Fawrth 2027.

Ar gael ar gyfraddau gwely a brecwast ar ddyddiadau dethol trwy gydol mis Hydref a mis Tachwedd 2026.
Archebwch eich gwyliau hydrefol ar yr arfordir ac edrychwch ymlaen at boreau araf ac amser i ymlacio.

Mwynhewch ostyngiad o 20% ar eich ddihangfa gaeafol yn ogystal â diod poeth am ddim wrth cyrraedd.
Ar gael ar gyfraddau gwely a brecwast ar ddyddiadau dethol o’r 1af o Ragfyr hyd at 5ed o Chwefror, 2027.

Mae eich pecyn tair noson (cinio, gwely a brecwast) yn cynnwys:
* Llety dros nos a brecwast
* Dewis o ddiod boeth bob prynhawn yn ystod eich arhosiad, gyda chacen. Dewiswch rhwng: te, coffi, gwin poeth neu siocled poeth.
* Lwfans o £25 tuag at eich pryd nos (bwyd yn unig), ac yna te a choffi.
* Anrheg cofrodd.
Ar gael rhwng 9 Tachwedd a 23 Rhagfyr 2026.

Mae eich pecyn 3 noson (cinio, gwely a brecwast) yn cynnwys:
* Llety dros nos a brecwast
* Dewis o ddiod boeth ar gyfer pob prynhawn o’ch arhosiad, gyda chacen. Dewiswch rhwng: te, coffi neu siocled poeth
* Lwfans o £25 tuag at eich pryd nos (ar gyfer bwyd yn unig), ac yna te neu goffi
Ar gael ar nosweithiau Llun i Wener yn unig, rhwng 4ydd a 29ain Ionawr 2027.
