Dathlwch hwyl yr ŵyl yng ngwesty’r Harbwrfeistr, Aberaeron, lle cewch fwyd blasus a chroeso cynnes. Bwytewch a byddwch lawen gan fwynhau ein bwydlenni cinio a swper, wedi’u creu gyda’r cynnyrch tymhorol gorau. Boed yn ddathliad teuluol neu’n barti gyda ffrindiau neu gyd-weithwyr, mae ein Bwydlen Dathlu’r Nadolig yn siŵr o fod at ddant pawb.
Rydym yn cynnig dwy ffordd i ddathlu Nos Galan eleni – swper pum chwrs neu noson fywiog gyda DJ: dewiswch eich hwyl eich hun!
Cewch groeso cynnes gyda ni yn yr Hawbwrfeistr wrth i chi greu atgofion hudolus yn ystod yr ŵyl.
Sgroliwch i lawr am fwy o wybodaeth.

Dathlwch gyda theulu, ffrindiau neu gyd-weithwyr gan fwynhau ein Bwydlen Nadolig.
Ar gael o Dachwedd 30ain – Rhagfyr 23ain 2026
Llun – Sadwrn: Cinio 12 – 2:15yh | Swper 5:30 – 9yh
Sul: Swper yn unig 5:30 – 9yh
2 Gwrs: £33.00 | 3 Chwrs: £42.00
Dathlwch hwyl yr ŵyl bob Dydd Mercher a Dydd Sadwrn rhwng Rhagfyr 2il a’r 16eg, gyda’n Te Prynhawn Nadoligaidd!
Mwynhewch ddanteithion tymhorol fel Sleidwyr Twrci a Slo Sbrowts, Pâté Macrell wedi’i fygu mewn Choux, Pastai Mins, a Phwdin Nadolig clasurol.
Perffaith ar gyfer ymgynnull gyda ffrindiau, teulu neu gydweithwyr.
Mwynhwech ddiod wrth gyrraedd, bwydlen 5 chwrs ac yn bwysicach fyth – awyrgylch hwylus!
Nos Iau, Rhagfyr 31ain 2026
Cyrraedd 7yh
£90.00 y person
Drysau’n agor am 7:30yh
£20 y tocyn
Mae pris y tocyn yn cynnwys coctêl croeso, tameidiau, ac adloniant DJ byw
Platiau rhannu à la carte ar gael i’w harchebu ar y noson
Manteisiwch i’r eithaf ar eich dathliadau Blwyddyn Newydd drwy aros am ddau noson. Cyrhaeddwch naill ai ar Nos Galan neu’r noson cynt, a mwynhewch egwyl estynedig i groesawu’r Flwyddyn Newydd!
Llety am 2 noson (yn cyrraedd naill ai 30ain neu 31ain Rhagfyr) | Swper Nos Galan neu Tocynnau Adloniant Byw| Brecwast bob Bore
Prisiau yn dechrau o £215 am 2 berson
Chwilio am yr anrheg Nodolig perffaith? Beth am daleb anrheg am brofiad bythgofiadwy yn yr Harbwrfeistr?
Dewiswch rhwng Dalebau Te Prynhawn neu Dalebau Agored sy’n eich galluogi i ddewis gwerth y daleb a sut i’w wario – boed ar ddihangfa dros nos neu bryd o fwyd danteithiol, er enghraifft.
Rhowch rodd sy’n sicrhau atgofion melys ger harddwch yr arfordir.