Mwynhewch brynhawn ger yr harbwr gyda’n bwydlen amrywiol o ddanteithion melys a sawrus. Mae ein Te Prynhawn yn cyflwyno gwedd newydd ar draddodiad, gyda brechdanau, cacennau a melysion sy’n adlewyrchu hanfodion glan môr. Cewch ddewis o de dail rhydd neu goffi ffres. Os hoffech ychydig o foethusrwydd, dewiswch De Prynhawn Pefriog HM gyda gwydraid o brosecco, neu De Prynhawn Siampên HM gyda gwydraid o Siampên Laurent Perrier. Ymhyfrydwch yn yr awyrgylch arfordirol gan dreulio prynhawn hyfryd ger y lli.
Mae talebau rhodd ar gyfer Te Prynhawn hefyd ar gael, ac yn gwneud yr anrheg berffaith ar gyfer penblwyddi, Sul y Mamau, Pasg, y Nadolig, neu’n syml fel anrheg fach feddylgar am ddim rheswm arbennig!
Te Prynhawn HM: £25 yr un
Te Prynhawn Pefriog HM: £30 yr un
Te Prynhawn Siampên HM: £37 yr un
Ar gael ar ddydd Mercher a dydd Sadwrn am 3yh.
(Ac eithrio penwythnosau Gŵyl y banc a gwyliau ysgol.)
Telerau ac Amodau:
Mae’n rhaid bwcio pob opsiwn Te Prynhawn HM o leiaf 48 awr o flaen llaw.
Rhowch wybod os oes angen opsiwn llysieuol neu di-glwten wrth fwcio. Mae’n bwysig eich bod yn nodi unrhyw anghenion dietegol arbennig wrth fwcio.
Byddwn yn holi am rif cerdyn debyd neu gredyd i gadarnhau eich bwciad, hyd yn oed os ydych yn bwriadu talu mewn modd arall. Dim ond os byddwch yn canslo neu’n methu mynychu y defnyddir y manylion hyn.
Os na fyddwch yn mynychu ac heb ganslo o flaen llaw, byddwn yn codi tâl o £10 yr un ar y garden a ddefnyddiwyd i gadarnhau’r bwciad. Os byddwch yn canslo ar ôl 10yb ar ddiwrnod eich bwciad, byddwn hefyd yn codi tâl o £10 yr un.